Hannah Downing
Cart 0

ABOUT / AMDANAF

DATGANIAD ARTIST

Mae fy ngwaith celf yn seiliedig ar ddulliau paentio a darlunio ac yn ymwneud a themâu gofod darluniol, arsylwi a chyfryngiad technolegol. Hyd yn hyn, mae syniadau at weithiau celf wedi deillio o ddelweddau ffotograffig, delweddau camerâu gwyliadwraeth, dangosyddion sgrin gyffwrdd a sganiau digidol. Mae ystyried deunydd o’r fath yn cynnig ffordd i mi archwilio rhinweddau gweledol delweddau a chyfryngau cyfarwydd, yn ogystal â’u cyfuniad â bywyd bob dydd. Rwy’n paentio a darlunio mewn ffordd sy’n ysgogi agweddau o gyfryngau eraill. Gan ddewis creu delweddau o ffurfiau naturiol a dynol, mae diddordeb gen i yn y cydadwaith rhwng y byd naturiol a thechnolegol; rhwng profiad uniongyrchol a chyfryngol, a rhwng gwneuthuriad llaw a mecanyddol. Mae’r berthynas rhwng ffurf dau-ddimensiynol a thri-ddimensiynol yn nodwedd sy’n aml yn rhan o fy ngwaith, wedi’i amlygu drwy effaith dyfnder ar wyneb gwastad, a thrwy baentiadau a dyluniadau sy’n rannol gerfluniol. Mae ardaloedd o gynfas gwag, ochr tu cefn y papur, a’r gwagle rhwng y gwaith celf a’i wylwyr yn derbyn yr un ystyriaeth a’r elfennau sydd wedi’u paentio neu’u darlunio.

 

BYWGRAFFIAD

Yn wreiddiol o bentref Crai ym Mannau Brycheiniog, astudiodd Hannah yng Ngholeg Celf Abertawe gan ddewis arbenigo ar baentio a darlunio. Ar ôl graddio yn 2008, gweithiodd fel cynorthwyydd mewn stiwdio baentio am gyfnod cyn dychwelid i Abertawe i fyw, gweithio, ac astudio at raddau MA a MPhil. Enillodd ei gwaith wobr y Beep Painting Prize yn 2012 a’i ddethol ar gyfer rhesr-fer y Jerwood Drawing Prize yn 2014. Yn ddiweddar, cafodd ei gwaith celf ei gynnwys fel rhan o arddangosfeydd John Ruskin: The Power of Seeing, Two Temple Place, Llundain (2019), John Ruskin: Art & Wonder, Millennium Gallery, Sheffield (2019) a’r Royal Academy Summer Exhibition (2020; 2023).


CV

Born 1985, Swansea, UK / Ganwyd 1985, Abertawe, UK
hannahdowning@mailbox.org

Education / Addysg
2022 MPhil, UWTSD. Thesis: Interfacing the Screenic and Pained Surface
2015 MA: Contemporary Dialogues, Swansea College of Art
2008 BA Fine Art: Painting and Drawing, Swansea Metropolitan University

Solo exhibitions / Arddangosfeydd Unigol
2015 Site, Light and Survey, Cardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne
2013 Panorama, The Last Gallery, Llangadog

Group exhibitions / Arddangosfeydd Grwp
2024 Swansea Open 2024, Glynn Vivian, Abertawe [ymlaen nawr, 03/02/24 – 19/05/24]
2023/4 Agored 2023, Galeri Caernarfon, Gwynedd
2023 Summer Exhibition, Royal Academy of Arts, Llundain
2023 Swansea Open 2023, Glynn Vivian, Abertawe
2021 International Women’s Day Auction 2021, Art on a Postcard, Ar-lein
2020 Summer Exhibition, Royal Academy of Arts, Llundain
2020 Winter Art Wall, Cardiff M.A.D.E., Caerdydd
2019 50fifty, Swansea College of Art & Elysium, Abertawe
2019 John Ruskin: Art & Wonder, Millennium Gallery, Sheffield
2019 John Ruskin: The Power of Seeing, Two Temple Place, Llundain
2018 Everything Now, Elysium, Abertawe
2018 We’re From Further South Than You, Undegun, Wrecsam
2016 In the Making: Ruskin, Creativity and Craftsmanship, Millennium Gallery, Sheffield
2016 Reimagined Spaces, Tŷ Hywel at the National Assembly for Wales, Caerdydd
2015 MA Show, Swansea College of Art, Abertawe
2014 Jerwood Drawing Prize, Llundain & eraill
2014 Oriel Davies Open, Oriel Davies, Y Drenewydd
2013 Affordable Art Fair, Bristol
2013 Young Masters, The Curious Duke Gallery, Llundain
2012 The Retreat, Hoxton Hotel, Llundain
2012 Kyffin Williams Drawing Prize, Oriel Ynys Môn, Ynys Môn
2012 Affordable Art Fair, Battersea, Llundain
2012 BEEP 2012: Through Tomorrow's Eyes, Elysium, Abertawe
2012 Art in Flux, The Curious Duke Gallery, Llundain
2012 Works on Loan, Celtic Manor, Casnewydd
2011 No No, I Hardly Ever Miss a Show, Zachęta National Gallery of Art, Warsaw
2011 Curatorial Contrasts II,Bay Arts, Caerdydd
2010 DIY, organised by Surface Arts, Exeter
2009 Ground:, Oriel Wrecsam, Wrecsam
2009 A Group Show, The Tithe Barn, Aberhonddu
2009 A Thing About Machines, The Herbert, Coventry
2009 Ground: Hannah Downing and Alex Duncan, Oriel Lliw, Pontardawe
2008 National Eisteddfod of Wales: Cardiff & District 2008, Y Lle Celf, Caerdydd
2008 Mission Open 08, Mission Gallery, Abertawe

Collections / Casgliadau
Glynn Vivian Art Gallery Contemporary Handling Collection, Abertawe
Museums Sheffield Collection, Sheffield
Gwaith celf mewn casgliadu preifat yn y DU & Ewrop

Awards, grants, commissions / Gwobrau, Grantiau a Chomisiynau
2017 Knowledge Economy Skills Scholarship, supported by the European Social Fund
2015 Craftsmanship Commission, Museums Sheffield supported by the Guild of St. George
2014 Access to Masters Scholarshipsupported by the European Social Fund
2014 Oriel Davies Open: People’s choice prize
2012 Beep Painting Prize: Main prize winner

Residencies / Preswylfeydd
2013 Glynn Vivian, Abertawe
2011 Aberystwyth Arts Centre, supported by the Esmée Fairbairn Foundation
2011 Invigilator Plus, Wales at Venice, Wales Arts International

Publications / Cyhoeddiadau
Downing, H., 2020. Fingertips and Touchscreens. Flusser Studies, [e-journal] 29:1