Hannah Downing
Cart 0

SAFLE, GOLAU AC AROLWG

Gweithiau celf yn ymateb i arolwg 1815 dyfrlliw Thomas Hornor o Neuadd Middleton, a wnaed yn ystod cyfnod ar leoliad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yn cyffwrdd ar themâu recordio, mesur a thrawsgrifio, crëwyd y rhan fwyaf o’r darnau celf gan ddefnyddio sganiwr A4 wedi’i gymerid allan o amgylchedd arferol y cartref/swyddfa er mwyn cynhyrchu ‘copïau’ o’r amgylchedd naturiol.


On Exactitude in Science (2015)
Collage of inkjet prints made from digital images taken with a CanoScan-Lide20 scanner.
150 x 800 cm

Mae'r gwaith celf wedi ei enwi ar ôl stori fer Jorge Luis Borges. Ynddi mae'r awdur yn dychmygu map yn cael ei dynnu at yr un cyfrannau a’r tirwedd y mae'n ei gynrychioli. Mae sganiwr cyfrifiadur A4 confensiynol wedi cael ei gymryd y tu allan i'w amgylchedd swyddfa/cartref arferol a'i ddefnyddio i sganio darn o laswellt. Wedi sganio, argraffu a glynu at ei gilydd, mae’r ddelweddau unigol yn ffurfio copi 1:1 o lawnt.

Roedd y darn o waith hwn yn ran o’r arddangosfa Safle, Golau ac Arolwg >>


Scanned Stations (2015)
Cyfres o brintiau C-Type o ddelweddau digidol wedi eu creu gyda sganiwr. CanoScan-Lide20 scanner.
Pob un: 30 x 21 cm

Crëwyd gan ddefnyddio sganiwr A4 wedi’i gymerid allan o amgylchedd arferol y cartref/swyddfa a’i ddefnyddio i gynhyrchu ‘copïau’ o’r amgylchedd naturiol.

Roedd y darnau o waith yma yn ran o’r arddangosfa Safle, Golau ac Arolwg >>